21 Century Dinosaur
T0978160140
Ai dallineb yw eich ofn pennaf? Gweledigaeth y sioe hon yw ei diffygion golwg. Mae bydoedd yn dod i wrthdrawiad ?'i gilydd - a'r actorion hefyd! Mae 21st Century Dinosaurs yn ddarn newydd cyffrous o theatr aml-gyfrwng a gr?wyd gan y cyfarwyddwr gwobrwyol, Chris Tally Evans, a'i gwmni talentog o artistiaid. Mae'r sioe'n adrodd hanesion doniol a thrasig o fywyd go iawn: daw hanes yr ynys drofannol lle mae 10 y cant o'r ynyswyr yn lliw-ddall, a golwg wreiddiol ar fenywod Mwslimaidd yn ein cymdeithas at ei gilydd mewn cynhyrchiad newydd i ysgogi'r meddwl. Mae pedwar o berfformwyr a diffygion golwg yn eich gwahodd i rannau eu byd wrth i'w straeon personol nhw ymgordeddu ? gwyddoniaeth enynnol. Gyda sg?r newydd gyffrous gan y cyfansoddwr ifanc nodedig, Lloyd Coleman, a darnau o lyfr gwych Dr Oliver Sacks, The Island of the Colour-blind*, mae 21st Century Dinosaurs yn sioe na fyddwch chi wedi gweld ei thebyg o'r blaen. Os ydych chi'n disgwyl gweld criw o bobl anabl yn cwyno am eu bywydau anodd, fe gewch chi'ch siomi. Mae'r cwmni'n cyfuno theatr a chwedleua, cerddoriaeth a fideo, golau a sain, mewn sioe a fydd yn gwneud i chi chwerthin, a fydd yn torri'ch calon, yn gwneud i chi feddwl ac yn galluogi i chi ddeall o'r diwedd sut brofiad yw methu ? gweld.
Archive :: production:T0978160140, play:S799113375, venue:V827