Lliwiau Rhyddid
T0
Eleni, mae Bara Caws wedi comisiynu'r beirdd Ifor ap Glyn ac Alinor Wyn Reynolds i gyfansoddi testun, a fydd yn cael ei llwyfannu gyda cherddoriaeth wreiddiol gan Pwyll ap Sion a delweddau gan yr artist Elfyn Lewis. Bydd y pedwar yn gweithio ar y cyd i greu cyfanwaith fydd yn ymestyn dros y ffurfiau celfyddyd gan ddylanwadu ar ei gilydd. Prif gyfrwng y sioe fydd y farddoniaeth, fydd, yn fodd i gyfleu gobeithion ac ofnau Cymru i'r dyfodol Prosiect aml gyfryngol gyffrous.....!
Archive :: play:S1525419207, venue:V068529436