Details
Taith theatrig ffraeth, eofn a theimladwy ar draws y ffin terfynnol. y tabw eithaf - mae
Shinani'n Siarad, wedi'i seilio ar
The Vagina Monologues gan Eve Ensler. Mae'r campwaith arobryn yma o fonologau pwerus yn ddwys, dirdynnol, doniol, swreal a doeth. Dyma feibl a chaniedydd cehedlaeth newydd o fenywod. Fe'u seiliwyd ar fwy na 300 o gyfweliadau gyda menywod o bob oedran a chefndir, a gynhaliwyd gan Eve Ensler y dramodydd o'r America. Hi hefy oedd yn eu perfformio i gychwyn ond erbyn hyn mae'r monologau wedi'u cyfieithu i 20 iaith ac yn cael eu perfformio led-led y byd. Mae'n hen bryd i ni yng Nghymru gael profi'r monologau yma yn ein hiaith ein hunain.
Creatives/Company
Author:
Eve EnslerWhat's On By Year ...