Details
Yn cynrychioli'r Gogledd: Tudur Owen, o Gaernarfon. A feddylioch chi erioed beth ywr gair Cymraeg am jellyfish? Bydd Tudur yn ateb y cwestiwn yma ynghyd a sawl un arall. Maen wyneb (a llais) adnabyddus oddi ar S4C a Radio Cymru, a chomediwr heb ei ail. Mae ganddo stor o straeon gwir fydd yn gwneud ich bol chwyddo gyda chwerthin. O'r De daw Noel James, comediwr swreal o Bontardawe. Heb os fe oedd un o arloeswyr y 'scene alternative' yng Nghymru, ac yn dal i dorri cwys ei hun e.e. pob Nos Galan ma fe'n mynd ati i wisgo penglog squid ar ei ben er mwyn dathlu'r Kalamari Lwyd! (ma'r jocs yn gwella, onest). Dyma gyferbyniad o ddau steil gwahanol fydd yn siwr o gynhyrchu noson gret o ddifyriant. Tudur Owen and Noel James serve up two helpings of top Welsh language comedy.