Dillad Newydd Yr Ymerawdwr
T622418975
Wyt ti erioed wedi colli rhywbeth? Tegan? Dant? Atgof? Beth petaet ti'n colli pob diferyn o wiriondeb? Mae'r hen Ymerawdwr yn mynnu dillad mwyaf c?l y deyrnas er mwyn cynnal ei enw da fel yr arweiniwr ffasiwn mwyaf, wel, 'c?l'! Pan ddaw'r Gwehyddion cyfrwys i'r fei, mae eu cynllun twp yn bygwth 'dinoethi' un o gyfrinachau mwyaf trist y dyn mawr. Cyflwyna Sherman Theatre a Theatr Iolo Dillad Newydd yr Ymerawdwr / The Emperor's New Clothes - dehongliad newydd sbon Alun Saunders o glasur Hans Christian Andersen. Gyda chaneuon a cherddoriaeth fyw, mae 'na rywbeth yma i'r holl deulu y Nadolig hwn.
Archive :: production:T622418975, kids show:S1596116310, venue:V824