Panto
T02023728458
Y mae Panto yn enghraifft berffaith o allu Gwenlyn Parry i greu llun sydd hefyd yn ddrychfeddwl o gyflwr emosiynol eu cymeriadau. Mae r pantomeim sydd yn cael ei lwyfannu gan gymeriadau Panto yn ddelwedd o u bywyd preifat. Pantomeim yw bywyd Robert Deiniol a thrwy ymestyniad, pantomeim chwerw-ddifrif, annwyl a thrist yw ein holl gyplysu a chyfathrachu fel pobol. I w blasu rhaid ymbwyllo, creu r darluniau yn y meddwl, gweld y symudiadau, clywed y rhythmau n newid, adnabod y llun. Dim ond bryd hynny y gwelwn theatr gyflawn Gwenlyn Parry - meistr y ddelwedd estynedig a bardd lluniau.
Archive :: production:T02023728458, play:S01564908631, venue:V820